Deeplearn_Sidebar
Deeplearn_Leaderboard
Dev-Bank-sidebar-Young-Entrepreneaurs


BNW-2024-profile-page-340x600px

Golley Ads,_Business Wales_FSP-BNW-Banner-450x460px_ENGLISH

WTW25_Sidebar Ad - Partner
21 June 2024

Addressing Recruitment and Training Challenges Faced by SMEs in Wales

CYMRAEG

GUEST COLUMN:

Louise Mumford
Learning and Development Specialist
OGI

Louise Mumford is the Learning and Development Specialist at Ogi, a full fibre telecoms company based in south Wales. She offers insights on the recruitment and training challenges  that small and medium-sized enterprises (SMEs) encounter as well as  the significant impacts  that  effective learning and development strategies have on business growth.

Louise  entered the corporate learning and development arena following a varied career in the post-16 education sector.

“My expertise spans from teaching and training, curriculum development, instructional design, and human resources and collaborating with people experience teams.  I am dedicated to embedding learning into the very fabric of organisational culture, ensuring that it aligns with fair work principles.  I’m interested in transforming the perception of workplace training from a mandatory compliance activity into an integral part of everyone’s working day. One that upholds the values of equality and respect”

Through the development of learning models, Louise aims to drive cultural change within SMEs and beyond, fostering environments where fair work is at the heart of modern businesses. However, training presents distinctive hurdles for businesses, particularly in technical sectors such as telecoms engineering.  By addressing these challenges head on, we can create a more inclusive and supportive workplace where fair work practices are not just an inspiration but a reality.

As Louise explains:

“Usually, we require new engineers to come in with a whole raft of qualifications that they've already taken prior to starting work with us. Because of this, we often work within a set pool of potential employees, particularly in our field of work, and these people have generally already worked for other telecoms providers that operate in the same sphere as Ogi.

“Past qualifications have tended to place an emphasis on IT rather than the hands-on  experience that many of our field engineers need. This means we need to train new members of staff after induction to make sure they have the additional skills needed or find recruits who already have this knowledge and are able to hit the ground running. This presents a challenge for newcomers to the sector.”

“As a high growth company, Ogi faces the challenge of continuously developing its internal training infrastructure. This means we need to collaborate with local training providers to ensure that the programmes available in Wales align with the specific skills our business needs.

Louise works closely with apprenticeship providers and regional skills partnerships to support the sector with addressing relevant skills gaps.

“We recently discovered a gap in our sector related to skills covering the ‘last mile’ of an installation. These are the key practical skills required for fibre installation, along with health and safety training and customer facing knowledge.

“Due to a gap in previous training, we have had to come up with innovative solutions to ensure high-quality performance in this specific field. We must ensure that our engineers receive the necessary support to deliver exceptional service, as they are the ones at the forefront of our operations.

Louise highlights a major recruitment challenge for growing businesses: positioning themselves competitively against larger enterprises to attract recruits.

“There’s often a perception that bigger is better, or at least safer. While recruits might think that smaller businesses offer lower wages, less job security and opportunity for career progression, these assumptions are not based on facts. We offer competitive salaries and opportunities for development and are working to make ourselves a real option to candidates who might believe that because we’re smaller, we can’t offer them a better package than a larger business.

“We want to recruit individuals who envision a long-term career with our company. We assess candidates holistically to see if they can apply their knowledge, use emotional intelligence, and demonstrate traits that will help them thrive in their employment. These are now the big change makers in business. As such, we make sure not to be too prescriptive in our recruitment strategies to enable a steady stream of hard-working individuals that can support our business growth.”

Facilitating a smooth transition from full-time education to the workplace, or between companies with different environments, and managing the cultural shift is also a challenge for SMEs.

“Business culture is evolving, so creating a psychologically safe environment for new recruits is important. It's crucial to adapt business operations to accommodate diverse mindsets and provide adequate support for employees.”

Louise advocates for all organisations to employ a learning and development team or individual to enable robust support for staff at all stages of their careers. This approach fosters continual learning and development, aligning with Ogi's long-term business strategy and growth objectives.

“Many organisations see learning and development as a ‘nice to have’ or something that larger organisations do, and don’t feel that it is necessarily relevant to them.

“Many of the typical challenges that come with training for businesses can be easily resolved with this support as you’ll be able to implement programmes that develop your staff. This also helps with recruiting. A company known for supporting staff becomes naturally attractive to career-oriented individuals. You’ll be seen as wanting to empower and enrich your employees and the organisation’s culture as a whole.

“At Business Wales there are Employer Engagement Advisors who can support the needs of your individual organisation and see what support is suitable for you, whether that be training courses for staff, or funding.”

As part of the Welsh Government’s support for employers, Business Wales Recruit and Train provides comprehensive support to address businesses' skills, training, and recruitment needs, including a variety of programmes aimed at helping employers access a wide and varied pool of talent including those supported by the Young Person’s Guarantee.

Its campaign, We’re in Your Corner, helps to raise awareness of the range of support available to employers to help them achieve their business goals.

Mynd i’r afael â heriau recriwtio a hyfforddi a wynebir gan fusnesau bach a chanolig yng Nghymru

Louise Mumford yw’r Arbenigwr Dysgu a Datblygu yn Ogi, cwmni telegyfathrebiadau ffibr llawn yn ne Cymru. Mae’n cynnig cipolwg ar yr heriau recriwtio a hyfforddi sy’n wynebu busnesau bach a chanolig, yn ogystal â’r effeithiau arwyddocaol y mae strategaethau dysgu a datblygu effeithiol yn eu cael ar dwf busnes.

Ymunodd Louise â’r maes dysgu a datblygu corfforaethol yn dilyn gyrfa amrywiol yn y sector addysg ôl-16.

“Mae fy arbenigedd yn amrywio o addysgu a hyfforddi, datblygu cwricwlwm a dylunio cyfarwyddol, adnoddau dynol a gweithio gyda thimau profiadau pobl. Dwi’n benderfynol i ymgorffori dysgu yng ngwead diwylliant sefydliadau gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag egwyddorion gwaith teg. Mae gen i ddiddordeb mewn trawsnewid y canfyddiad bod hyfforddiant yn y gweithle yn weithgaredd cydymffurfio gorfodol, a’i fod yn hytrach yn rhan annatod o ddiwrnod gwaith pawb. Rhywbeth sydd yn cadw at werthoedd tegwch a pharch.”

Drwy ddatblygu modelau dysgu, nod Louise yw sbarduno newid diwylliannol mewn busnesau bach a chanolig a thu hwnt, gan greu amgylchedd i fusnesau modern sydd â gwaith teg wrth eu gwraidd. Fodd bynnag, mae hyfforddiant yn creu rhwystrau penodol i fusnesau, yn enwedig mewn sectorau technegol fel peirianneg telegyfathrebiadau. Drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol gallwn greu gweithle mwy cynhwysol a chefnogol lle mae arferion gwaith teg nid yn unig yn ysbrydoliaeth ond yn realiti.

Fel yr eglura Louise: “fel arfer, mae angen i beirianwyr newydd ennill llu o gymwysterau cyn dechrau gweithio gyda ni. Oherwydd hyn, rydyn ni’n yn aml yn gweithio gyda chronfa benodol o ddarpar weithwyr, yn enwedig yn ein maes gwaith, ac yn gyffredinol mae’r bobl hyn eisoes wedi gweithio i ddarparwyr telegyfathrebiadau eraill sy’n gweithredu yn yr un maes ag Ogi.

“Yn y gorffennol, mae cymwysterau wedi tueddu i roi pwyslais ar TG yn hytrach na’r profiad ymarferol sydd ei angen ar lawer o’n peirianwyr maes. Mae hyn yn golygu bod angen i ni hyfforddi aelodau newydd o staff ar ôl y broses cynefino i wneud yn siŵr bod ganddynt y sgiliau ychwanegol sydd eu hangen neu ddod o hyd i recriwtiaid sydd eisoes â’r wybodaeth hon ac sy’n gallu bwrw iddi’n gyflym. Mae hyn yn her i newydd-ddyfodiaid i’r sector.”

“Fel cwmni twf uchel, mae Ogi yn wynebu’r her o ddatblygu ei seilwaith hyfforddi mewnol yn barhaus. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gydweithio â darparwyr hyfforddiant lleol i sicrhau bod y rhaglenni sydd ar gael yng Nghymru yn cyd-fynd â’r sgiliau penodol sydd eu hangen ar ein busnes.

Mae Louise yn gweithio’n agos gyda darparwyr prentisiaethau a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol i gefnogi’r sector i fynd i’r afael â bylchau sgiliau perthnasol.

“Yn ddiweddar, daethom o hyd i fwlch yn ein sector sy’n ymwneud â sgiliau sy’n delio â ‘milltir olaf’ gosodiad. Mae’r rhain yn sgiliau ymarferol allweddol sydd eu hangen ar gyfer gwaith gosod ffeibr, ynghyd â hyfforddiant iechyd a diogelwch, a gwybodaeth sy’n ymwneud â chwsmeriaid.

“Oherwydd y bwlch mewn hyfforddiant blaenorol, rydyn ni wedi gorfod meddwl am atebion arloesol i sicrhau perfformiad o ansawdd uchel yn y maes penodol hwn. Rhaid i ni sicrhau bod ein peirianwyr yn cael y cymorth angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth eithriadol, gan mai nhw yw rheng flaen ein gweithrediadau.

Mae Louise yn tynnu sylw at her recriwtio fawr ar gyfer busnesau sy’n tyfu: sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i gystadlu â mentrau mwy i ddenu recriwtiaid.

“Yn aml, mae canfyddiad bod mwy yn well, neu’n fwy diogel o leiaf. Er y gallai recriwtiaid feddwl bod busnesau llai yn cynnig cyflogau is, llai o sicrwydd swyddi a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eu gyrfa, nid yw’r tybiaethau hyn yn seiliedig ar ffeithiau. Rydyn ni’n cynnig cyflogau cystadleuol a chyfleoedd i ddatblygu, ac rydyn ni’n gweithio i wneud ein hunain yn opsiwn go iawn i ymgeiswyr sydd efallai’n credu na allwn ni gynnig pecyn gwell iddyn nhw am ein bod yn gwmni llai.

“Rydyn ni eisiau recriwtio unigolion sy’n gobeithio cael gyrfa tymor hir gyda’n cwmni. Rydyn ni’n asesu ymgeiswyr yn gyfannol i weld a allant gymhwyso eu gwybodaeth, defnyddio deallusrwydd emosiynol, a dangos nodweddion a fydd yn eu helpu i ffynnu yn eu cyflogaeth. Bellach, dyma’r nodweddion allweddol ym myd busnes. Oherwydd hynny, rydyn ni’n gwneud yn siŵr nad yw ein strategaethau recriwtio yn rhy gaeth i alluogi llif cyson o unigolion gweithgar sy’n gallu cefnogi twf ein busnes.”

Mae hwyluso’r broses o bontio’n ddidrafferth o addysg amser llawn i’r gweithle, neu rhwng cwmnïau sydd ag amgylcheddau gwahanol, a rheoli’r newid diwylliannol hefyd yn her i fusnesau bach a chanolig.

“Mae diwylliant busnes yn datblygu, felly mae’n bwysig creu amgylchedd sy’n ddiogel yn seicolegol ar gyfer recriwtiaid newydd. Mae’n hanfodol addasu gweithrediadau busnes i gyd-fynd â meddylfryd amrywiol a darparu cefnogaeth ddigonol i weithwyr.”

Mae Louise yn eiriol dros bob sefydliad i gyflogi tîm dysgu a datblygu neu unigolyn i alluogi cefnogaeth gadarn i staff ar bob cam o’u gyrfaoedd. Mae’r dull hwn yn meithrin dysgu a datblygu parhaus, gan gyd-fynd ag amcanion twf a strategaeth fusnes hirdymor Ogi.

“Mae llawer o sefydliadau’n gweld dysgu a datblygu fel rhywbeth ‘neis i’w gael’ neu rywbeth y mae sefydliadau mwy yn ei wneud, ac nid ydynt yn teimlo ei fod o reidrwydd yn berthnasol iddynt.

“Gyda’r gefnogaeth hon, mae’n hawdd datrys llawer o’r heriau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â hyfforddiant i fusnesau gan y byddwch yn gallu rhoi rhaglenni sy’n datblygu eich staff ar waith. Mae hyn hefyd yn helpu i recriwtio. Mae cwmni sy’n adnabyddus am gefnogi staff yn dod yn naturiol ddeniadol i unigolion sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd. Byddwch yn cael eich gweld fel rhywun sydd eisiau grymuso a chyfoethogi eich gweithwyr a diwylliant y sefydliad yn ei gyfanrwydd.

“Yn Busnes Cymru, mae Cynghorwyr Ymgysylltu â Chyflogwyr sy’n gallu cefnogi anghenion eich sefydliad unigol a gweld pa gymorth sy’n addas i chi, boed hynny’n gyrsiau hyfforddi i staff, neu’n gyllid.”

Fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflogwyr, mae Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru yn darparu cymorth cynhwysfawr i fynd i’r afael a sgiliau, hyfforddiant ac anghenion recriwtio busnesau, gan gynnwys amrywiaeth o raglenni sydd â’r nod o helpu cyflogwyr i gael gafael ar gronfa eang ac amrywiol o dalent, gan gynnwys y bobl sy’n cael eu cefnogi gan y Warant i Bobl Ifanc.

Mae ei hymgyrch, Yn Gefn i Chi, yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael i gyflogwyr i’w helpu i gyflawni eu nodau busnes.

Columns & Features:


4 July 2025

3 July 2025

27 June 2025

20 June 2025

Related Posts:

Business News Wales //