Showcasing the Best of Welsh Business

DEFAULT GROUP

Y Ffin Ddigidol: Paratoi’r Gweithlu ar gyfer Heriau Technoleg y Dyfodol

SHARE
,

Mae'r Athro Pete Burnap yn arbenigwr mewn Gwyddor Data a Seiberddiogelwch yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â bod yn un o gyfarwyddwyr a sylfaenwyr Hyb Arloesedd Seiber Cymru, mae gan yr Athro Burnap brofiad helaeth o weithio gyda busnesau Cymru fel rhan o brosiectau ymchwil i helpu i ddatblygu eu seiberddiogelwch a defnyddio technoleg cwmwl i hybu effeithlonrwydd gweithredol.

Mae'n rhannu ei feddyliau ar beth yw’r heriau technoleg mwyaf sy'n wynebu busnesau bach a chanolig yng Nghymru heddiw yn ei farn ef, a sut i'w goresgyn trwy uwchsgilio gweithwyr.

“Trwy fy mlynyddoedd yn arbenigo mewn seiberddiogelwch a Deallusrwydd Artiffisial, rydw i wedi gweld cynnydd rhyfeddol a datblygiadau sylweddol. Yn enwedig yn ddiweddar, mae'r pynciau hyn wedi dechrau cael eu trafod mewn fforymau cyfryngau a busnes prif ffrwd.

“I fusnesau bach a chanolig, rwy'n aml yn meddwl mai'r brif broblem yw deall yn union sut y gall y technolegau diweddaraf gael effaith gadarnhaol ar eu cwmni. Gall mabwysiadu datblygiadau digidol newydd deimlo'n frawychus, a dydy hi ddim bob amser yn amlwg ble, pryd neu sut y bydd yr elw ar fuddsoddiad yn talu ar ei ganfed. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi'n sefydliad bach.

“Fodd bynnag, mae cymaint o fanteision gwych o groesawu technoleg newydd a'i galluogi i wella prosesau, dadansoddi data, cyflawni tasgau a helpu sefydliadau i fod yn fwy effeithlon.”

Fel rhan o'i rôl gyda Hyb Arloesedd Seiber Cymru (CIH), menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae'r Athro Burnap yn gweithio gyda busnesau i helpu i gynyddu lefel y sgiliau seiberddiogelwch sydd ganddynt. Mae'n esbonio:

“Profiad syml a pherthnasol i lawer o gwmnïau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw'r newid tuag at weithio hybrid, lle mae angen i weithwyr gael mynediad at ddata'r cwmni o’u cartref fe y gallant weithio’n fwy hyblyg. Mae seiberddiogelwch yn yr ystyr hwn yn golygu sicrhau bod mynediad at wybodaeth yn hawdd ac yn ddiogel.

“Yn y CIH, rydym yn gweithio gyda chwmnïau o bob siâp, maint a lefel o wybodaeth am seiberddiogelwch i'w helpu i wella eu sgiliau a sefydlu proses sydd wedi'i theilwra i'w sefydliad. Ond yr hyn sydd bwysicaf oll yw'r angen i sicrhau bod pawb yn deall gwerth y technolegau hyn a sut i'w defnyddio – dyna lle mae hyfforddi gweithwyr yn dod yn hanfodol.

“Mae angen i arweinwyr busnes sicrhau bod eu staff yn fedrus o ran deall buddion, cyfyngiadau a risgiau technoleg er mwyn sicrhau eu bod yn cadw eu data'n ddiogel, tra hefyd yn gwneud y gorau o'r datblygiadau hyn.”

Mae'r Athro Burnap hefyd yn aelod o Gyngor Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth y DU, gan gynghori ar weithredu'r strategaeth ddiwydiannol ym maes AI. Mae'n esbonio sut mae'n credu y dylai cwmnïau hyfforddi eu staff i'w ddefnyddio'n effeithiol:

“Mae deallusrwydd artiffisial wedi dod yn bwnc llosg yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae ei ddefnydd yn fwyfwy cyffredin diolch i fasnacheiddio AI trwy raglenni fel Chat GPT. Ychydig flynyddoedd yn ôl, dim ond y rhai a oedd yn deall codio ac a oedd â gwybodaeth TG uwch fyddai wedi gallu elwa ar yr hyn sydd ganddo i'w gynnig, ond nawr rydym yn gweld pobl yn ei ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd.

“Mae hidlo ceisiadau AI lefel uchel i waith o ddydd i ddydd yn rhywbeth y mae angen i fusnesau ei gynllunio i'w strategaethau a dylid ei ystyried yn offeryn gwerthfawr. Meddyliwch am AI fel eich cynorthwyydd personol neu fel intern – gall gyflawni tasgau gweinyddol neu ddadansoddol i chi, ond yn y pen draw mae angen i chi ddibynnu ar eich gwybodaeth arbenigol eich hun o'r busnes i adolygu'r gwaith hwnnw, yn hytrach na'i dderbyn fel gwirionedd yn ddi-gwestiwn.

“Mae hyfforddi gweithwyr wrth ddefnyddio AI yn bwysig, mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn defnyddio AI yn gywir a gofyn y cwestiynau cywir amdano. Er enghraifft, mae meddalwedd AI yn ffordd wych o gymryd nodiadau cyfarfod, ond mater i'r gweithiwr yw mynd â’r data hwnnw i ffwrdd a nodi beth yw'r pwyntiau allweddol, beth sydd angen ei weithredu a’i  ddirprwyo yn nhrefn blaenoriaeth. Dylai fyrhau tasgau, yn hytrach na'u dileu ar gyfer staff.”

Ochr yn ochr â'r hyb arloesedd, mae Canolfan Hartree yn wasanaeth arall a ariennir i BBaChau yng Nghymru ddysgu mwy am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dadansoddi data i rymuso eu busnesau, gan sicrhau y gall staff ddysgu sut i gofleidio technolegau newydd yn fedrus. Meddai'r Athro Burnap:

“Wrth gymryd amser i asesu anghenion technolegol eu cwmni, ni ddylai arweinwyr busnes ofni’r datblygiadau mewn seiberddiogelwch ac AI – dylent eu cofleidio a chydnabod y manteision y gallant eu cynnig.

“Mae cymaint o gefnogaeth ar gael i BBaChau sydd eisiau torri drwodd yn y maes hwn, felly byddwn yn eu hannog i uwchsgilio eu hunain ac yna trosglwyddo'r wybodaeth honno i'w staff fel y gallant groesawu'r gorau y gall yr offer hyn ei gynnig.”

Fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru i gyflogwyr, mae Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru a’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn darparu cymorth cynhwysfawr i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau, hyfforddiant a recriwtio busnesau.

Mae ein hymgyrch, Yn Gefn i Chi, yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ystod o gymorth sydd ar gael i gyflogwyr i'w helpu i gyflawni eu nodau busnes.

Business News Wales