Ychwanegu Antur at Eich Busnes / Add Adventure into Your Business
Scroll Down for English Version
Sesiwn hwyliog, addysgiadol a rhyngweithiol na fyddwch eisiau ei golli yng nghwmni Nigel Treacy, Rheolwr Canolfan Chwaraeon Eira Llandudno.
Bydd Nigel yn rhannu ei farn am pam ei bod yn bwysig cynnwys agweddau antur yn eich busnes, a sut y gall hyrwyddo'r profiadau hynny wella'r hyn rydych yn ei gynnig i ymwelwyr, gan eu hannog i aros yn hirach a gwario mwy.
Yna, cewch gyfle i godi eich adrenalin drwy roi cynnig ar y Sleidiau Tobogan, y Golff Antur Alpaidd a'r Tiwbiau Eira sydd i gyd yn brofiadau unigryw a phoblogaidd iawn a gynigir gan y Ganolfan. Mae'n ffordd wych o feithrin eich gwybodaeth am gynnyrch lleol, gan fwynhau a rhwydweithio ar yr un pryd!
Amser: 3pm – 6pmLleoliad: Canolfan Chwaraeon Eira LlandudnoLluniaeth yn gynwysedig
*Fe'ch cynghorir i wisgo dillad cynnes ac esgidiau addas.
*Mae'r digwyddiad AM DDIM ac wedi'i gyllido'n llawnAriennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.Yn agored i weithwyr proffesiynol ym maes lletygarwch yn Sir Conwy.
Mae'r llefydd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli cyfle ac archebwch eich lle nawr.
Am Nigel Treacy
Dechreuodd Nigel ei yrfa ym maes chwaraeon a lletygarwch yn hyfforddi chwaraeon eira yn Alpau Ffrainc ac yna chwaraeon dŵr ledled Ewrop. Aeth yn ei flaen i weithio i ddatblygu athletwyr Timau Hwylio Prydain gan arwain at ddau Ymgyrch Olympaidd mwyaf llwyddiannus Prydain; Atlanta ’96 a Sydney 2000.
Ar ôl dychwelyd i'r DU, parhaodd Nigel i hyfforddi sgïo a hwylio ar bob lefel wrth iddo gymryd rhan yn Nhaith Tonhwylio Prydain. Daeth yn Bencampwr Tonhwylio Meistri Prydain ddwywaith yn 2009/10.
Heddiw, mae Nigel yn gweithio i Grŵp Cwmnïau Nike, darparwr Canolfannau Chwaraeon Eira mwyaf y DU lle mae'n goruchwylio holl hyfforddiant Hyfforddwyr Chwaraeon Eira ac yn rheoli'r ganolfan flaenllaw yn Llandudno ar yr un pryd.
Mae’n parhau i feddu ar y wobr hyfforddi ryngwladol uchaf ym maes Chwaraeon Eira sef I.S.I.A ac mae’n gweithio fel Tiwtor Hyfforddwr Datblygu Alpaidd i’r corff llywodraethu, UK Snowsports. Mae hyn yn cynnwys hyfforddi ac asesu Hyfforddwyr Chwaraeon Eira'r dyfodol yn y DU a ledled y byd.
Ef yw sylfaenydd a Chadeirydd Cymdeithas Tonhwylio Prydain lle mae'n goruchwylio gweithrediadau rheoli digwyddiadau Ton y DU. Caiff y daith ei gwylio gan 543 miliwn o bobl ledled y byd.
Yn lleol, mae Nigel yn parhau i gefnogi a datblygu prosiectau twristiaeth a lletygarwch. Mae'n cadeirio Fforwm Arfordirol Llandudno a Cyrchfan Conwy. Mae'n aelod o'r Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol a phwyllgorau adfywio economaidd ac arloesi eraill.
***********************************************************************************************************
A fun, informative and interactive session that you will not want to miss hosted by Nigel Treacy, Manager of the Llandudno Snowsport Centre, and former Olympic Coach.
Nigel will share his thoughts on why it’s important to include adventure within your business, and how promoting these experiences can enhance your offering to the visitor, encouraging them to stay longer and spend more.
Afterwards, you will get an opportunity to raise your adrenaline by trying out the Snow-Tubes, Toboggan Run and the Alpine Crazy Golf, all unique and very popular experience offered by the centre. It’s a great way to build your local product knowledge and have a lot of fun at the same time, whilst networking of course!
Time: 3pm – 6pm
Venue: Llandudno Snowsport Centre
Refreshments included
*****Advisable to wear warm clothing and sensible footwear.
*FULLY FUNDED and the event is FREE to attend
This project is funded by the UK Government through the UK Community Renewal Fund.
Open to Hospitality Professionals working in Conwy County.
Spaces are limited, so don’t miss out and book now.
About Nigel Treacy
Nigel began his working life in the sports and hospitality coaching Snowsports in the French Alps and then Watersports around Europe. He later went on to work with developing athletes in the British Sailing Teams culminating in 2 of Britain’s most successful Olympic Campaigns; Atlanta ’96 and Sydney 2000.
Returning to the UK Nigel continued to coach Skiing and Sailing at all levels whilst he also competed in the British Wavesailing Tour. He became 2 x times British Masters Wavesailing Champion in 2009/10.
Today Nigel works for the Nike Group of Companies, the largest Snowsports Centre provider in the UK where he oversees the training for all Snowsports Instructors whilst managing the flagship centre in Llandudno.
He continues to hold the highest international Snowsports coaching award of I.S.I.A and work as an Alpine Development Coach Tutor for the governing body, UK Snowsports. This involves training and assessing future Snowsport Instructors both in the UK and Worldwide.